Gwarchod Data
Mae Clwb Camera Dyffryn Ogwen (CCDO) yn casglu gwybodaeth gyswllt a delweddau gan aelodau i gynorthwyo â gweinyddu cyffredinol y clwb ac i baratoi ceisiadau ar gyfer cystadlaethau rhwng clybiau. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cynnwys enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn. Bydd y data'n cael ei gadw'n ddiogel a dim ond aelodau canlynol y Pwyllgor fydd yn cael ei ddefnyddio: Cadeirydd, Ysgrifennydd, Trysorydd, Gweinydd y Wefan ac Ysgrifennydd Cystadlaethau.
Dim ond i gysylltu â chi ar gyfer ac ar ran CCDO bydd y data'n cael ei ddefnyddio. Gofynnir i aelodau'r clwb nodi eu cytundeb â'r polisi hwn pan fyddant yn talu eu tanysgrifiadau yn flynyddol. Yn arbennig, nodwch nad yw CCDO yn gwerthu, rhentu na'n masnachu eich manylion cyswllt â chwmnïau a busnesau eraill at ddibenion marchnata neu elw ariannol.
Cesglir y data pan fyddwch yn ymaelodi a'r clwb, yn ymweld â'n gwefan neu'n anfon e-bost atom. Byddwn hefyd yn casglu eich cyfeiriad IP pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan.
Bydd y data wedyn yn cael ei gadw am 36 mis yn dilyn eich tanysgrifiad blynyddol diwethaf, oni bai eich bod yn gofyn i ni ei gadw am gyfnod amhenodol fel y gallwch barhau i gael newyddion am y clwb. Mae hyn er mwyn galluogi'r clwb i hyrwyddo'r rhaglen ymysg cyn-aelodau am gyfnod rhesymol o amser fel bod ganddynt gyfle i ail-ymuno.
Mae gan unrhyw berson yr ydym yn dal data ar ei gyfer yr hawl i adolygu'r cofnod ac mae ganddo'r hawl i wrthod caniatâd i CCDO gadw'r data. Cysylltwch â CCDO trwy ein gwefan os hoffech weld y data hwn.
Wrth gofrestru ar gyfer cystadlaethau, brwydrau neu arddangosfeydd, mae CCDO yn cadw'r hawl i gyhoeddi eich enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a theitl y ddelwedd.
Ni all CCDO warantu na dderbyn cyfrifoldeb am ddata tra ei fod yn 'cael ei drosglwyddo' dros y rhyngrwyd.
Mae gwefan CCDO (https://www.dyffrynogwencamera.co.uk/cy) yn cael ei gynnal gan Dab Design. Gellir gweld eu polisi preifatrwydd ar y wefan https://www.dabdesign.co.uk/. Gall manylion cyswllt aelodau gael eu hanfon at Dab Design er mwyn creu adran ar wefan y clwb ar gyfer yr aelod perthnasol. Ni fydd Dab Design yn defnyddio gwybodaeth gyswllt aelodau at unrhyw ddiben arall.
Fersiwn 1.0 Ebrill 2018
Tudalen wedi ei diweddaru: 03/02/24